Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
04 Gorffennaf 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”).
Mae Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-deddfwriaeth) (Rhif 1) 2022 ("y Rheoliadau") yn diwygio is-ddeddfwriaeth i roi effaith lawn i ddarpariaethau o dan Ddeddf 2021 a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o fis Medi 2022 ymlaen. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan ddeddfiadau amrywiol, tra bod Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Addysg 2002.
Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno’n raddol i blant a disgyblion. Bydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno'n raddol yn unol â'r amserlen isod, a nodir ym mharagraff 2.4 o Femorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru:
Wedi'i gyflwyno'n raddol o: |
Blwyddyn ysgol/dysgwyr sy'n dilyn y Cwricwlwm i Gymru |
Blwyddyn ysgol/dysgwyr sy’n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (a Lleol) |
Medi 2022 |
Meithrin, derbyn, blwyddyn 1 i flwyddyn 6 a blwyddyn 7 ar gyfer ysgolion/lleoliadau sydd wedi dewis gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2022. |
Blwyddyn 7 mewn ysgolion/lleoliadau sydd wedi dewis peidio â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2022; a blynyddoedd 8 i 11. |
Medi 2023 |
Pob blwyddyn hyd at Blwyddyn 8 ac yn cynnwys y flwyddyn honno |
Blynyddoedd 9 i 11 |
Medi 2024 |
Pob blwyddyn hyd at Blwyddyn 9 ac yn cynnwys y flwyddyn honno |
Blynyddoedd 10 i 11 |
Medi 2025 |
Pob blwyddyn hyd at Blwyddyn 10 ac yn cynnwys y flwyddyn honno |
Blwyddyn 11 |
Medi 2026 |
Dysgwyr blynyddoedd meithrin a derbyn a dysgwyr o oedran ysgol gorfodol (blynyddoedd 1 i 11). Mewn perthynas â Rhan 5 o Ddeddf 2021 – y dysgwyr hynny mewn ysgolion a gynhelir sydd mewn addysg ôl-16 (blynyddoedd 12 a 13). |
Dim – ni fydd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn berthnasol mwyach. |
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
Fe’u gwnaed ar: 14 Mehefin 2022
Fe’u gosodwyd ar: 17 Mehefin 2022
Yn dod i rym ar:
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
04 Gorffennaf 2022
SL(6)221 – Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig (“CBCau”) a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o becyn o offerynnau sy’n sail i sefydlu CBCau ac sy’n ceisio sicrhau eu bod yn ddarostyngedig i’r un gofynion gweinyddu a llywodraethu â llywodraeth leol.
Cyrff corfforaethol yw CBCau, a sefydlir drwy reoliadau. Ar hyn o bryd, mae pedwar CBC wedi eu sefydlu yng Nghymru: Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin a Chyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain.
Hon yw'r bedwaredd set o Reoliadau Cyffredinol Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn rhan o becyn o ddarpariaethau a diwygiadau annibynnol i ddeddfwriaeth sy'n sail i bob CBC ac sy'n sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweinyddu a llywodraethu CBC yn effeithiol.
Mae’r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn:
· diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfarwyddo CBCau i gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'u perfformiad.
· ei gwneud yn ofynnol i CBC gydweithredu â phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor cyfansoddol (neu gyd-bwyllgor craffu o ddau neu ragor o gynghorau cyfansoddol) sy'n gwneud adroddiad neu argymhellion mewn perthynas ag arfer un o'i swyddogaethau gan y CBC a rhoi cymorth iddo.
· gwneud darpariaeth ynghylch llywodraethu a gweinyddu is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio CBCau. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas â phenodi cadeirydd a dirprwy, trafodion a gweithdrefn bleidleisio'r is-bwyllgor ac amlder ei gyfarfodydd.
· diwygio adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel y gellir gwneud rheoliadau o dan yr adran honno sy'n gymwys i CBCau. Mae adran 20 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol (gan gynnwys prif gynghorau) fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol a nodir mewn rheoliadau.
· gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Sefydlu ar gyfer pob un o'r pedwar CBC, gan gynnwys mewn perthynas â'r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio. Mae'r rhain yn sicrhau bod gan is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio CBC yr un cyfrifoldeb dros gwynion a rheoli perfformiad â phwyllgor llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 15 Mehefin 2022
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
04 Gorffennaf 2022
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y gofyniad bod cyflogeion a gweithwyr sy'n darparu gofal a chymorth yn cael eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i wasanaethau cartrefi gofal i oedolion ac i wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.
Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr:
§ gwasanaeth cartref gofal i oedolion, a
§ gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd
i gyflogi personau sydd wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru lle maent yn gweithio mewn rolau sy'n darparu gofal a chymorth. Mae'r gofyniad i gofrestru yn gymwys i gyflogeion ac i weithwyr a gyflogir o dan gontract ar gyfer gwasanaethau. Rhaid i weithwyr fod wedi'u cofrestru o fewn chwe mis i ddechrau eu cyflogaeth neu o fewn chwe mis i gael eu cymryd ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth.
Bwriad cyflwyno gofyniad ar y gwasanaethau hyn i gyflogi dim ond gweithwyr sydd wedi'u cofrestru gyda rheoleiddiwr y gweithlu yw rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd ac i ddefnyddwyr y gwasanaethau hynny bod gweithwyr yn cael eu dwyn i gyfrif yn erbyn Cod Ymarfer Proffesiynol a bod ganddynt y cymwysterau priodol i ymgymryd â'r rôl.
I gael ei nodi ar y gofrestr, rhaid i berson feddu ar gymwysterau priodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt fod wedi cwblhau cwrs a gymeradwywyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn llwyddiannus.
Fel rhan o'r rhaglen gofrestru, mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru y pŵer i godi ffi gofrestru o dan Ddeddf 2016, ac mae'n gyfrifol am bennu'r ffi hon.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 01 Hydref 2022